Twristiaeth a'r Amgylchedd.

Llysgenhadon Twristiaeth

Llysgenhadon Twristiaeth Menter Mynyddoedd Cambrian

Mae Menter Mynyddoedd Cambrian yn brosiect eang sy’n ceisio helpu i hyrwyddo mentergarwch mewn cymunedau gwledig ac ychwanegu gwerth at gynnyrch a gwasanaethau yng nghanolbarth Cymru. Ysgogwyd y prosiect gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, sef Llywydd y Fenter, sydd am helpu i gynnal cymunedau gwledig, ffermydd traddodiadol yr ucheldir a’r amgylchedd naturiol.

Yn ei rôl fel Llywydd Menter Mynyddoedd Cambrian, mae Ei Uchelder Brenhinol yn dymuno cydnabod sefydliadau twristiaeth o safon gan gynnwys gwestai, bwytai, llety hunanarlwyo ac atyniadau i ymwelwyr. Dechreuodd y cynllun newydd yn 2011, ac mae’n cydnabod cyfraniad pwysig y Llysgenhadon i gynaliadwyedd cyffredinol y rhanbarth, gan gynnwys eu defnydd o gynnyrch bwyd Mynyddoedd Cambria a bwydydd eraill o’r ardal leol, yn ogystal â’u rôl o ran helpu i gysylltu ymwelwyr â chefn gwlad a diwylliant ardaloedd gwledig canolbarth Cymru.

Mae bod yn Llysgennad Twristiaeth Menter Mynyddoedd Cambrian yn anrhydedd mawr ei fri a chaiff ei roi ar sail cyngor annibynnol i EUB Tywysog Cymru bob blwyddyn. Y sefydliadau a restrir isod yw Llysgenhadon cyfredol Menter Mynyddoedd Cambrian, ac rydym yn gobeithio cyhoeddi enwau mwy o Lysgenhadon maes o law.

Mae’r sefydliadau hyn wedi cytuno i ddilyn meini prawf llym ac egwyddorion brand Menter Mynyddoedd Cambrian, ac mae ganddynt yr hawl i ddefnyddio nod brand Llysgenhadon Twristiaeth Menter Mynyddoedd Cambrian.

Mae nod brand y Fenter yn cynnwys llun dyfrlliw o Gwm Berwyn yng nghanol Mynyddoedd Cambria, a baentiwyd gan EUB Tywysog Cymru. Mae’r brand unigryw yn cynrychioli’r gorau sydd gan y rhanbarth i’w gynnig. Yn ogystal â dynodi’r blas a’r ansawdd gorau, mae’r brand hefyd yn amlygu gwahaniaeth clir ac unigryw.

Caiff defnydd awdurdodedig o’r brand ei reoleiddio’n llym er mwyn sicrhau bod gwerthoedd craidd yn cael eu parchu a’u hyrwyddo. Gall Llysgenhadon Twristiaeth Menter Mynyddoedd Cambrian arddangos plac y Llysgenhadon hefyd i ddangos eu statws a’u hansawdd unigryw.

Llysgenhadon Twristiaeth Menter Mynyddoedd Cambrian 2011

Gwestai

Y Falcondale (Llanbedr Pont Steffan) www.thefalcondale.co.uk

Gwesty’r Metropole (Llandrindod) www.metropole.co.uk

Ynyshir Hall (ger Machynlleth) www.ynyshirhall.co.uk

Gwesty'r Castell (Llanymddyfri) www.castle-hotel-llandovery.co.uk

The New White Lion Hotel (Llandovery) www.newwhitelion.co.uk

The Lake Country House Hotel (Llangammarch Wells) www.lakecountryhouse.co.uk/

Bwytai gydag ystafelloedd a gwestai bach

Gwesty Cymru (Aberystwyth) www.gwestycymru.com

Guidfa House (Crossgates, ger Llandrindod) www.guidfa-house.co.uk

Lasswade Hotel (Llanwrtyd)www.lasswadehotel.co.uk

TyMawr Mansion (Cilcennin, Llanbedr Pont Steffan) www.tymawrmansion.co.uk

Bwytai yn y wlad

Y Ffarmers, Llanfihangel y Creuddyn (ger Aberystwyth) www.yffarmers.co.uk

Hunanarlwyo

Luxury Lodges (Trefeglwys) www.luxury-lodges-wales.com

The Yurt Farm (Penuwch, Tregaron) www.theyurtfarm.co.uk

Atyniadau

Ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron (rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan)www.nationaltrust.org.uk/llanerchaeron

Amgueddfa Cwiltiau Cymru Jen Jones (Llanbedr Pont Steffan) www.jen-jones.com