Yr Ardal.

Twristiaeth

Mae twristiaeth yn elfen hanfodol o gynaladwyedd economaidd Mynyddoedd Cambrian a’r gadwyn o aneddiadau sy’n amgylchynu ein hucheldir garw. Mae’r Fenter yn cydnabod yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth o Mynyddoedd Cambrian fel man i ymweld ag o fel bod cyfaint a gwerth twristiaeth i’r economi leol yn cynyddu ac yn cynorthwyo i gynnal ein ffordd o fyw. Ond tra ein bod yn codi proffil yr ardal ac yn annog pobl i ymweld, rhaid i ni fod yn ofalus i beidio â newid cymeriad ein trefi a’n pentrefi, na chael effaith yn y fath fodd fydd yn niweidio neu’n difetha'r amgylchedd bendigedig sy’n gwneud ein tirwedd yn fan mor arbennig i ymweld ag o yn y lle cyntaf.

Mae’r Fenter felly yn ceisio dod o hyd i gydbwysedd yn ei waith. Ar un llaw mae’n annog darparwyr twristiaeth lleol i weithredu ar safon uchel, i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r amgylchedd a’r defnydd o gynnyrch lleol lle bynnag bo modd gwneud hynny; ar y llaw arall mae’n ceisio gweithio’n agos i gael ymwelwyr i gynorthwyo i edrych ar ôl yr amgylchedd naturiol sy’n ysbrydoli eu hymweliadau trwy gyfrannu at gynllun ‘talu yn ôl’, cynllun sy’n codi arian ar gyfer gwaith gwarchod yr amgylchedd a datblygu cymunedol o amgylch ardal y Cambria.

Adnabyddiaeth Brand

Does dim dwywaith bod ardal Mynyddoedd Cambrian yn llai adnabyddus na’i gymdogion agosaf, Eryri i’r Gogledd a’r Bannau Brycheiniog i’r de ohono. Gall hyn fod yn fantais ac yn anfantais. Mae statws Parc Cenedlaethol wedi rhoi ein cymdogion ar y map ac mae ymwelwyr yn heidio iddynt heb sylweddoli ar safon y dirwedd a chynhesrwydd profiad ymwelwr yn y Cambria. Ein nod ydy codi ymwybyddiaeth o Fynyddoedd Cambrian fel brand; brand sydd yn golygu gofod a lle i anadlu (heb rwystr amgylchiadau cerdded gorboblog a geir yn y Parciau Cenedlaethol), safon (tirlun, croeso a chynnyrch lleol) a chynaladwyedd (sy’n sicrhau nad ydy gweithgaredd twristiaeth yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd y mynyddoedd neu fywyd lleol).

Trwy annog ein diwydiant twristiaeth lleol i gydweithio i anelu’n uwch a marchnata eu hunain o dan faner Mynyddoedd Cambrian, rydym yn ffyddiog y gallwn gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r ardal. Ac unwaith bydd ein hardal yn dod yn adnabyddus, bydd safon y tirlun, a chynhesrwydd y croeso, yn parhau i ysbrydoli pobl i ddychwelyd dro ar ôl tro..

Annog safon

Mae safon yn bwysig. Fel gyda gwaith y Fenter yn datblygu cynnyrch lleol, hoffem weld y diwydiant twristiaeth ym Mynyddoedd Cambrian yn gweithredu i safon unffurf uchel, yn rhoi sicrwydd ansawdd mae ymwelwyr ei angen, a gwasanaeth sy’n cyd-fynd â safon yr amgylchedd naturiol sy’n ysbrydol eu hymweliad.

Rydym yn anelu at annog pob darparwr llety a gweithgareddau i fod yn rhan o gynllun achredu safon. Ym fwy na hynny rydym eisiau gweld cymaint o fwyd wedi’i gynhyrchu’n lleol a phosib ar fwydlenni, boed yn ein tai bwyta, mewn caffis a thafarndai, neu ar fwrdd brecwast ein G&B.

Ac i gyd fynd â safon gwasanaeth, rydym yn anelu at annog ymwybyddiaeth o’r amgylchedd ac arfer da ymysg ein busnesau twristiaeth, trwy eu hannog i ymuno ag ardystio amgylcheddol fel y Green Tourism Business Scheme.