Treftadaeth
Adeiladu dyfodol i adeiladau adfeiliog hanesyddol

Deri Odwyn
Am ganrifoedd bu Mynyddoedd Cambrian yn cynnal patrwm hudolus o feddianaeth dynol sy’n cynnwys ffermio defaid a gweithio plwm gyda chryn dipyn o welliannau amaethyddol a thirweddol yn cael eu gweithredu yn ystod y 18fed a’r 19eg canrif gan ystadau megis Hafod. Ymgorfforwyd yr hanes hwn yn yr adeiladau sydd wedi goroesi a bydd Menter Mynyddoedd Cambrian yn anelu i amddiffyn yr etifeddiaeth hwn ac ehangu dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol.
Rydym wedi cychwyn trwy gofnodi adeiladau fferm yr ardal gan fod ein dealltwriaeth ohonynt yn gymharol isel mewn cymhariaeth a mathau eraill o adeilad. O dan oruchwyliaeth Ymddiriedolaeth Adfywio’r Tywysog mae’r prosiect yn cymryd arolwg o’r adeiladau fferm sydd wedi para ac yn sgil hyn yn tynnu themau a phatrymau adeiladwaeth treftadaethol at eu gilydd. Mae’n anelu i nodi yr adeiladau sydd o dan fwyaf o fygythiad a’r rhai hynny lle bo cyfle i’w trwsio neu ail-ddefnyddio mewn modd creadigol.
Hyd yn hyn rydym wedi arolygu dros 530 o ffermydd, mân-ddaliadau a bythynnod yn dyddio o sgubor 1689 Pencefn i sied injan 1924 Cefn Meurig Mawr, ac yn cynnwys ffermydd cartref megis honno yn Deri Ormond a melinau corn megis Felin yr Aber. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau cynnar yn Nyffryn Aeron lle gwelwn hefyd yr esiamplau mwyaf nodedig o adeiladau wal bridd megis Felin Coed. Gwnaed waliau Cob neu Clom trwy gymysgu clai gyda brwyn a man ddarnau o garreg glai.
Ein gobaith yw parhau nes ein bod wedi arolygu y Cambrian yn ei gyfanrwydd, i fod yn gatalydd i wella’r amgylchedd hanesyddol ac yn fodd o flaenoriaethu defnyddiau newydd cynhaliadwy i’n hen adeiladau gwerthfawr.
Edward Holland (The Prince’s Regeneration Trust) 7 Ebrill 2009
![]()
Am adroddiad llawn cliciwch yma (Saesneg yn unig):
CMI Historic Buildings Pilot Project

