Deialog Sciencewise - Dyfodol y Cambria
Dyfodol y Cambria / Future of the Cambrians – deialog Sciencewise
Defnyddiwyd y prosiect deialog cyhoeddus hwn i ledaenu canfyddiadau’r prosiect Tirweddau Addasol. Cafwyd cyllid gan Sciencewise (yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau) i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ardal yr astudiaeth er mwyn canfod barn y cyhoedd am y dull Nwyddau a Gwasanaethau Ecosystem ym Mynyddoedd Cambrian, a’r gwerth mae pobl yn ei roi ar y nwyddau a’r gwasanaethau hynny.
Roedd y prosiect yn cynnwys dau gylch o weithdai. Cynhaliwyd y gweithdai cyntaf yn y dalgylchoedd yn ardal yr astudiaeth Tirweddau Addasol, gan ganolbwyntio ar esbonio ystyr Nwyddau a Gwasanaethau Ecosystem. Cynhaliwyd yr ail weithdy yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth. Ei nod oedd dwyn ynghyd y rhanddeiliaid o’r cylch cyntaf o weithdai a’u cynnwys mewn trafodaeth fwy soffistigedig ynglŷn â goblygiadau polisi’r dull Nwyddau a Gwasanaethau Ecosystem, fel y dengys dull mapio Polyscape.
Llwyddodd y gymysgedd o lunwyr polisi ac aelodau gwybodus o’r cyhoedd a oedd yn bresennol i ysgogi trafodaeth ddiddorol ynglŷn â’r posibilrwydd o ddatblygu’r ffordd rydym yn talu am reoli ein hamgylchedd yn y dyfodol.
Erbyn hyn, rydym yn ystyried datblygu’r broses ymhellach trwy ddeialog fwy soffistigedig a fydd, gyda chymorth y dull Polyscape, yn ceisio asesu’r ffordd orau o ddarparu Nwyddau a Gwasanaethau Ecosystem yn lleol yn erbyn amryw o dargedau cenedlaethol.


