Ardal beilot
Ardal beilot ar gyfer defnyddio mesurau amaeth-amgylcheddol yng Nghymru
O ystyried bod Ardal Nodweddion Tirwedd Mynyddoedd Cambrian yn cwmpasu tua 1970 km2 (197,000 ha), sy’n cynnwys dros 850 o fusnesau ffermio dros 10 ha o faint, mae Grŵp Ecosystemau Mynyddoedd Cambrian wedi nodi bod angen dewis Dalgylch Afon lle bydd modd gweithio gyda thirfeddianwyr i archwilio mesurau a fydd yn cynorthwyo i wella mesurau rheoli bioamrywiaeth, dŵr a charbon yr ardal. Er mwyn cynorthwyo i ddatblygu dull gweithio newydd sy’n ystyried mesurau rheoli tir fesul dalgylch, penderfynwyd y dylem gychwyn gydag un o’r dalgylchoedd llai (tua 20,000ha). Cynhelir ymarfer cwmpasu ar hyn o bryd i ail-werthuso’r dewis o ddalgylchoedd.
Rhan o’r meini prawf ar gyfer dewis y dalgylchoedd hyn oedd y cyswllt posibl a nodwyd rhwng arferion rheoli tir a statws Baner Las traethau yn enwedig yn Aberystwyth a Borth. Bwriad y grŵp yw edrych ar y berthynas rhwng arferion rheoli tir a llygredd amaethyddol gwasgaredig a gweld sut mae hyn yn effeithio ar ddosbarthiad y traeth.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd y grŵp yn canolbwyntio’i ymdrechion ar gasglu gwybodaeth fanylach am yr ardal beilot. Os oes digon o ddata sylfaenol ar gael, bwriedir defnyddio’r dalgylchoedd hyn. Pan fydd y dalgylchoedd terfynol wedi’u dewis gellir cychwyn ar y broses o gynnal gweithdai gyda thirfeddianwyr yn yr ardal beilot arfaethedig er mwyn eu cynnwys mewn trafodaethau am y ffordd y tybiant y gall eu busnesau fferm gyfrannu at sicrhau enillion o ran bioamrywiaeth, dŵr a charbon yn ogystal â gwella’r amgylchedd hanesyddol.


