Twristiaeth a'r Amgylchedd.

Synergeddau o fewn y Grŵp Marchnata Cynnyrch

1) Dadansoddiad Ariannol Busnesau

Roedd un o’r prosiectau cyntaf a roddodd y Grŵp Llywio Ecosystemau ar waith yn cynnwys cynnal Arolwg Busnes Fferm ar sampl o ffermydd a oedd yn cymryd rhan yn y Grŵp Cynhyrchwyr Cig Oen i’w cynorthwyo i ddod yn fwy ymwybodol o’r costau sy’n gysylltiedig â rheoli busnes, yn ogystal â galluogi’r ffermwyr i feincnodi eu perfformiad o gymharu â ffermwyr eraill yn y grŵp. Roedd hyn yn adeiladu ar waith a wnaed gan Is-adran Gwasanaethau Technegol Llywodraeth y Cynulliad, a gyhoeddwyd fis Mawrth 2009. Roedd hwn yn edrych ar ddylanwad taliadau cymorth gan y llywodraeth ganolog a’u heffaith ar elw. Cynhaliwyd yr astudiaeth hon trwy edrych ar y data sydd gan Lywodraeth y Cynulliad ar ardaloedd ffermio a’r holl daliadau cynllun cysylltiedig, gan gynnwys Taliadau Sengl a chyn belled yn ôl â’r hen gynlluniau parthed Ardaloedd Amgylcheddol Sensitif.

Rhoddodd yr arolwg wybodaeth i’r Grŵp Gwasanaethau Ecosystemau ynglŷn â pha mor bwysig yw taliadau cymorth i’r grwpiau hynny o ffermwyr o safbwynt cynnal cynefinoedd, tirweddau a nodweddion amgylcheddol sy’n bodoli eisoes. Fe allai hefyd greu model ar gyfer mecanweithiau cymorth amaethyddol yn y dyfodol gan ystyried yr effeithiau posibl y gallai newidiadau i’r PAC ac Echel 2 (wedi 2013) eu cael ar fusnesau fferm. Bydd hyn yn golygu y gellir datblygu opsiynau lle gellid gwneud taliadau rheoli tir ar sail canllawiau rheoli Carbon a Dŵr.

2) Mesur Ôl Troed Carbon Busnesau Fferm.

Mae tri ar ddeg o ffermwyr ar Fynyddoedd Cambria wedi cymryd rhan mewn prosiect arloesol sydd wedi mesur ôl troed carbon eu gweithgareddau, gan arwain at lunio cyngor ar sut y gellir lleihau allyriadau carbon. Mae’r gwaith hwn ar fesur ôl troed carbon, a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor, yn ymestyn cwmpas yr offer ôl troed carbon ffermydd a geir ar hyn o bryd i gynnwys fflycsau carbon mewn priddoedd amaethyddol a llystyfiant naturiol ar ffermydd, yn ogystal ag ystyried ôl troed carbon y gwrtaith a’r porthiant a brynir. Yn y rhan fwyaf o achosion, ocsid nitrus (N2O) a arweiniodd at y gyfran fwyaf o nwyon tŷ gwydr a gafodd eu gollwng o ffermydd. Roedd lefelau cyffredinol yr allyriadau’n amrywio’n ôl faint o bridd ‘organig’ a geid ar y ffermydd. Deilliodd yr allyriadau methan yn bennaf o eplesiad enterig o du da byw, gan amrywio’n ôl y math o anifail a’u niferoedd ar y fferm. Roedd yr allyriadau a oedd yn gysylltiedig â mewnbynnau uniongyrchol (er enghraifft tanwydd, trydan, gwrtaith) bob amser yn isel. Roedd tair o’r ffermydd yn dal a storio mwy o garbon deuocsid fesul hectar, a gellid eu hystyried fel bod yn garbon niwtral neu’n ddalfeydd carbon. Nid arweiniodd unrhyw un o’r newidiadau yn nulliau rheoli’r ffermydd – er enghraifft lleihad o 5% yn nifer yr anifeiliaid (defaid a gwartheg) – at leihad o fwy na 5% yn ôl troed carbon y ffermydd. Arweiniodd yr opsiynau ar gyfer dal a storio carbon at newidiadau mwy sylweddol (hyd at 12% trwy ychwanegu naill ai hectar o goetir neu hanner cant o goed arunig fesul fferm).

Gan gadw mewn cof fod y systemau rheoli fferm ym Mynyddoedd Cambria yn eang, dylai’r canlyniadau roi gwybodaeth i ffermydd unigol am statws eu daliad o ran dal a storio carbon. Bydd yr ymchwil yn cryfhau cymwysterau gwyrdd a chynaliadwy cynnyrch y rhanbarth, gan gynorthwyo ffermwyr i gymryd rhan yng Ngrŵp Cynhyrchwyr Cig Oen Mynyddoedd Cambrian er mwyn gweithio tuag at yr Egwyddorion Marchnata y cytunwyd arnynt, sy’n nodi y bydd ffermwyr yn ymdrechu i leihau eu Hôl Troed Carbon. Bydd casgliadau’r gwaith hwn yn cael eu lansio fis Medi 2010. Byddant yn cael eu defnyddio i archwilio ffyrdd newydd o leihau ôl troed carbon amaethyddiaeth o fewn y rhanbarth, yn ogystal ag archwilio’r hyn y gall ffermydd a dulliau rheoli tir ei wneud i leihau allyriadau.

3) Y Prosiect Tirweddau Addasol - Astudiaeth Achos Mynyddoedd Cambrian

Cefndir y gwaith

Proffwydir mai newid hinsawdd yw un o’r prif bethau a fydd yn addasu bioamrywiaeth a thirweddau Cymru dros y ganrif nesaf. Bydd tymheredd uwch, cynnydd yn lefel y môr, gaeafau gwlypach a hafau sychach a mwy stormus yn newid cynefinoedd a dosbarthiad rhywogaethau’n sylweddol. Fe fydd y rhain yn rhoi pwysau ar y gwahanol wasanaethau y mae’r tir yn eu cyflwyno i gymdeithas, er enghraifft bwyd, dŵr, ynni a rheoli llifogydd. Dymuniad y Llywodraeth yw sicrhau bod modd cymryd camau i gynllunio ar gyfer y newidiadau hyn, ynghyd â lleihau eu heffeithiau. Ychydig o enghreifftiau ymarferol a geir o sut y dylid gwneud hyn ar lefel y dirwedd. O ganlyniad, mae DEFRA wedi comisiynu tri o brosiectau astudiaethau achos. Un o’r rhain yw modelu ac asesu’r defnydd a wneir o egwyddorion addasu newid hinsawdd o fewn y dirwedd. Mae dalgylchoedd afonydd Leri, Ceullan, Clarach, Cletwr a Rheidiol ar ochr ddwyreiniol Mynyddoedd Cambria wedi’u dewis fel un astudiaeth achos oherwydd yr amrywiaeth o gynefinoedd sydd yno, o Bumlumon i Aber Dyfi. Ymhellach, mae’r ardal hon wedi’i dewis oherwydd y gwaith y mae Menter Mynyddoedd Cambria yn ei wneud eisoes â chriw o ffermwyr i adeiladu a diogelu dyfodol eu busnesau mewn modd a fydd yn cyflwyno amrywiaeth o swyddogaethau a gwasanaethau ar sail y dirwedd safonol.

Pwrpas yr ymchwil

Bydd y gwaith ymchwil yn archwilio sut y gallai newidiadau damcaniaethol mewn defnydd tir effeithio ar fioamrywiaeth ac ar allu’r dirwedd i addasu i newid hinsawdd. Dim ond fel ardal astudiaeth achos y bydd yr ardal dan sylw’n cael ei defnyddio, sy’n golygu na fydd y gwaith ymchwil yn arwain yn uniongyrchol at newidiadau ym mholisïau’r Llywodraeth. Yn hytrach, bydd yn cyfrannu at ganllawiau ar gyfer llunwyr polisïau a chynllunwyr ar hyd a lled Cymru a Lloegr er mwyn eu cynorthwyo i gynllunio, creu, cynnal a rheoli tirweddau a fydd yn galluogi bioamrywiaeth i addasu i newid hinsawdd. Caiff y gwaith yma ei gyflawni gan grŵp o sefydliadau, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Menter Mynyddoedd Cambrian, Prifysgol Bangor a Land Use Consultants. Disgwylir i’r gwaith ymchwil ddod i ben fis Medi 2010.