Datblygu cysylltiadau - Prosiect Pumlumon
Datblygu cysylltiadau gyda phrosiectau sy’n bodoli eisoes ym Mhrosiect Mynyddoedd Cambrian - Pumlumon
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru (Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn) sydd wedi bod yn arwain Prosiect Pumlumon. Fel rhan o’r prosiect, buont yn gweithio gyda thirfeddianwyr i ddarparu mesurau rheoli tir ymarferol a fydd yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu amodau i wella’r dull o reoli tir o safbwynt dŵr, carbon a bioamrywiaeth. Roedd gwaith a gyflawnwyd yn 2008 yn cynnwys adfer 9ha o gors ddiraddedig trwy gynnal rhaglen i gau 3km o ffosydd ac adeiladu dros 80 o argaeau ar raddfa fach i godi lefelau'r dŵr. Yn ogystal mae’r prosiect wedi bod yn defnyddio Gwartheg Gwynion Cymreig i bori bloc 16ha o laswelltir asid i ychwanegu at ei werth o ran bioamrywiaeth. Yn ystod 2009, bydd y prosiect yn mynd ati i adfer 45ha arall o gors ac ehangu’r ardal sy’n cael ei phori gan y Gwartheg Gwynion Cymreig.


