Carbon Footprint Report
Prosiect Cyfrifo Ôl-troed Carbon:
Cafodd yr adroddiad terfynol ar brosiect yn astudio dulliau cyfrifo ôl-troed carbon y ffermydd yng Ngrŵp Cig Oen Mynyddoedd Cambrian, sef Measuring Holistic Carbon Footprints for Lamb and Beef Farms in the Cambrian Mountains, ei lansio yng Ngŵyl Start yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Medi 2010, a chafodd lawer o sylw yn y cyfryngau.
Cynhaliwyd y prosiect ar gais ffermwyr ym Menter Mynyddoedd Cambrian a oedd am gael dealltwriaeth well o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) sy’n deillio o’u busnesau fferm. Nod y prosiect oedd darparu’r canlynol i ffermwyr:
- ôl-troed GHG cynhwysfawr ar gyfer pob fferm sy’n cymryd rhan.
- dadansoddiad sensitifrwydd sy’n edrych sut y gall newid arferion rheoli effeithio ar ôl-troed carbon cyffredinol y fferm.
- nodi meysydd allweddol yn ôl-troed pob fferm lle mae potensial i leihau allyriadau ar lefel fferm gyfan a fesul cilogram o gynnyrch
I grynhoi prif ganfyddiadau’r adroddiadau, roedd yr 20 o ffermydd a arolygwyd yn amsugno 58% o’u hôl-troed allyriadau lleol ar gyfartaledd, a gwelwyd fod tair o’r ffermydd yn y Cambria yn ddalfeydd carbon, gan ddal a storio mwy o nwyon tŷ gwydr nag yr oeddent yn eu cynhyrchu. Yn y rhan fwyaf o achosion, ocsid nitrus (N2O) oedd y gyfran fwyaf o’r nwyon tŷ gwydr a allyrrwyd o’r ffermydd, ac roedd lefelau cyffredinol allyriadau N2O yn amrywio yn ôl faint o briddoedd ‘organig’ oedd ar y fferm. Mae gan rai ffermydd ar briddoedd mwynol allyriadau N2O isel, ac mae hyd at 90% o allyriadau N2O ffermydd eraill yn deillio o briddoedd organig. Eplesiad enterig mewn da byw sy’n bennaf gyfrifol am allyriadau methan ac mae’n amrywio yn ôl y niferoedd a’r math o stoc ar y fferm. Roedd yr allyriadau’n ymwneud â mewnbynnau uniongyrchol (e.e. tanwydd, trydan, gwrtaith) ar y ffermydd bob amser yn isel o gymharu â’r rhain.
Mater allweddol yn yr adroddiad yw’r defnydd o ffigurau PAS2050 a argymhellir gan y Pwyllgor Atal a Rheoli Heintiau (IPCC) i gyfrifo allyriadau ocsid nitrus o briddoedd organig. Wrth gyfrifo ôl-troed y gwahanol ffermydd ym Mynyddoedd Cambrian, defnyddiodd tîm Prifysgol Bangor y ffigurau a argymhellir gan yr IPCC ar gyfer y DU* a ffigurau mwy lleol o astudiaeth a wnaed ar briddoedd mawn ym Mynyddoedd Cambrian – a oedd llawer yn is na ffigurau’r IPCC. O ganlyniad i’r astudiaeth hon, mae defnyddio data lleol mewn modelau cyfrifo ôl-troed carbon yn dod yn llawer mwy derbyniol ac mae yna bosibilrwydd cryf y bydd yr Ymddiriedolaeth Garbon yn dechrau derbyn y lefelau allyriadau pridd cefndirol o’r adroddiad hwn fel y norm ar gyfer priddoedd mawn yn ucheldiroedd Cymru.
*DS: Cyn yr adroddiad hwn, nododd yr Ymddiriedolaeth Garbon y dylai ffigurau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer priddoedd mawn a reolir yng Nghymru fod yr un fath â’r rheini a ddefnyddir ledled y DU. Mae’r cyfrifiadau a gymeradwywyd yn flaenorol gan yr Ymddiriedolaeth Garbon ar gyfer y DU yn ymwneud â phriddoedd mawn a reolir yn ddwys ar gorsydd East Anglia lle mae tyfu cnydau’n rheolaidd yn arwain at erydu a cholli carbon i’r atmosffer. Roedd defnyddio’r un ffigurau allyriadau ar gyfer ucheldiroedd Cymru yn ymddangos yn annheg gan fod ucheldiroedd Cymru’n cael eu ffermio’n helaeth ac, yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes unrhyw gnydau’n cael eu tyfu yno.


