Defnyddio cysyniad y Gwasanaethau Ecosystem
Defnyddio cysyniad y Gwasanaethau Ecosystem ym Menter Mynyddoedd Cambrian
Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i chyrff noddedig sy’n arwain elfen Ecosystemau (Cadeirydd y Gweithgor -John Lloyd Jones) Menter Mynyddoedd Cambrian gan weithio gydag uwch staff o wahanol adrannau Llywodraeth y Cynulliad gan gynnwys Cadw, Asiantaeth yr Amgylchedd, y Comisiwn Coedwigaeth ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn i ddatblygu cynllun prosiect rheoli tir strategol. Bydd cyswllt agos hefyd rhwng y gwaith ar Wasanaethau Ecosystem a ddatblygir ym Mynyddoedd Cambrian, a’r Grwpiau Marchnata Twristiaeth a Bwyd.
Mae’r cysyniad o nwyddau a gwasanaethau ecosystem yn cefnogi proses o wneud penderfyniadau sy’n sicrhau canlyniadau cynaliadwy. Y nod yw darparu data sy’n golygu bod modd dadansoddi’n drwyadl y prosiectau arfaethedig a gyflwynir gan wahanol ffrydiau gwaith, a nodi eu goblygiadau. Mae hyn yn darparu sail ar gyfer gwneud penderfyniadau deallus.
Mae gwaith Llywodraeth y Cynulliad a’i Hasiantaethau ar ecosystemau yn canolbwyntio ar amddiffyn priddoedd, dŵr, bioamrywiaeth a threftadaeth sydd, yn ogystal â’u gwerth cynhenid, yn cefnogi a chyfoethogi bywyd dynol. Y cam cyntaf wrth ddatblygu gweithgarwch mewn unrhyw ardal yw nodi’r blaenoriaethau amgylcheddol, a hefyd y cyfleoedd posibl i gydweithio a chydbwyso gyda blaenoriaethau eraill, megis cynhyrchu bwyd.
Fel rhan o’i gwaith ar ecosystemau, mae Llywodraeth y Cynulliad yn adolygu’r cynlluniau rheoli tir sydd wedi’u cynnwys yn Echel 2 y Cynllun Datblygu Gwledig, er mwyn creu cysylltiad agosach rhyngddynt ag amcanion polisi amgylcheddol megis y rhai sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Ar ôl adolygu’r rhaglenni dan Echel 2 y Cynllun Datblygu Gwledig gyda’r nod o gytuno ar gynlluniau rheoli tir diwygiedig gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, cyhoeddodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, newid i’r cynlluniau rheoli tir yng Nghymru. O 2012 ymlaen, bydd y pum cynllun amaeth-amgylcheddol presennol (Tir Gofal, Tir Cynnal, Tir Mynydd, y Cynllun Ffermio Organig a’r cynllun Gwell Coetiroedd i Gymru) yn cael eu disodli gan un cynllun, Glastir, sydd mewn gwell sefyllfa i wynebu heriau amgylcheddol y presennol a’r dyfodol megis newid yn yr hinsawdd, dal carbon, rheoli dŵr a bioamrywiaeth.
Mae swyddogaeth mynyddoedd Cambrian fel tarddle llawer o afonydd pwysig, ac fel ardal sy’n gyfoethog mewn mawn, yn golygu eu bod yn addas iawn fel maes prawf ar gyfer gwaith Llywodraeth y Cynulliad gyda phartneriaid a chymunedau lleol ar ecosystemau. Golyga yn arbennig fod ganddynt y potensial i gael eu defnyddio fel ardal i weithio ar gynllun peilot cynnar a gweithredu mesurau newydd dan 1Adolygiad Echel 2.
1 Echel 2 -Amcan allweddol yr adolygiad yw sicrhau bod yr arian dan echel 2 yn cael ei wario mor effeithiol â phosibl i fodloni amcanion amgylcheddol ehangach Llywodraeth y Cynulliad, yn enwedig y rheiny sy’n deillio o Strategaeth Amgylcheddol Cymru - gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag agenda newid yn yr hinsawdd, camau i atal colli bioamrywiaeth a chynnal safleoedd dynodedig mewn cyflwr ffafriol a datblygu dulliau gweithio ar raddfa tirwedd ac ecosystemau; o Ffermio i’r Dyfodol a gweledigaeth Ffermio 2020 - sy’n ymwneud â chynaliadwyedd ffermio i’r dyfodol a’r newid o gymhorthdal uniongyrchol i dalu am nwyddau cyhoeddus; ac o Goetiroedd i Gymru - sy’n ymwneud â rheoli coetiroedd yn gynaliadwy.


