Twristiaeth a'r Amgylchedd.

Y Prosiect Tirweddau Addasol

Y Prosiect Tirweddau Addasol

Mae’r prosiect partneriaeth hwn, a ariennir yn bennaf gan DEFRA (ac sy’n cynnwys Ymgynghorwyr Defnydd Tir, Prifysgol Bangor, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd), yn astudiaeth achos ar gyfer datblygu dull o nodi mesurau ymarferol, ar raddfa tirwedd, sy’n lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gan weithio ar draws dalgylchoedd yr afonydd Leri, Ceulan, Clarach a Rheidol yn ardal Mynyddoedd Cambrian, mae dull mapio digidol Polyscape yn nodi ym mha ardaloedd y bydd mesurau addasu, fel plannu coed neu ail-wlychu gorgors, yn fwyaf effeithiol o ystyried sut mae’r tir amaethyddol yn cael ei ddefnyddio.

Mae’n bwysig pwysleisio mai sail trafodaeth yw Polyscape sy’n ceisio nodi’r gwasanaethau ecosystem gorau (bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd, atal llifogydd, ansawdd dŵr a rheoli carbon) y gellir eu defnyddio ar ffermydd yn ardal yr astudiaeth. Mae’r gwaith o gyflwyno’r gwasanaethau hyn yn destun trafod wedyn rhwng rheolwyr tir a’r mecanweithiau (taliadau amaeth-amgylcheddol / grym y farchnad) sy’n gallu talu am gyflwyno’r manteision ecosystem gofynnol.

Y gobaith yw y bydd y dull yn ddefnyddiol wrth geisio datblygu’r farchnad ar gyfer Nwyddau a Gwasanaethau Ecosystem, gan ddangos y manteision pendant sy’n gallu deillio o newidiadau rheoli tir gwell wedi’u targedu. Mae’r dull Nwyddau a Gwasanaethau Ecosystem yn ganolog i syniadaeth gyfredol y Fframwaith Amgylcheddol Naturiol (sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru) ac mae ganddo’r potensial i fod yn allweddol i’r gwaith o ddatgloi gwerth llawn tirwedd Mynyddoedd Cambrian.