Yr Ardal.

Ecosystemau

Gwasanaethau Ecosystem

Cefndir

Mae pwysigrwydd yr amgylchedd naturiol ym Mynyddoedd Cambrian yn amlwg, gyda 15% o’r tir wedi’i ddynodi’n dir pwysig yn rhyngwladol o ran bywyd gwyllt o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig) a 2% arall wedi’i ddynodi’n dir o Bwysigrwydd Cenedlaethol (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig). Wrth gwrs mae’r dirwedd a welwn ni heddiw hefyd yn adlewyrchu canrifoedd o weithgarwch pobl ac mae Mynyddoedd Cambria yn frith o greiriau ein gorffennol ni. Mae 309 o Henebion Cofrestredig (h.y. o bwysigrwydd cenedlaethol), 321 o Adeiladau Rhestredig a thair ardal ddynodedig sylweddol ar Gofrestri Tirweddau o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig ICOMOS UK yng Nghymru.

Mae’r ardal yn cynnig cyfle rhagorol i weithio mewn partneriaeth agos â’r gymuned ffermio i chwarae rhan flaenllaw o ran arbrofi a nodi dulliau newydd i reoli tir amlbwrpas yn gynaliadwy ar yr ucheldiroedd (darparu Gwasanaethau Ecosystem) gyda thaliadau cymorth posibl sy’n cydnabod natur arbrofol y broses.

Mae ardal y prosiect yn seiliedig ar fap asesu nodweddion tirwedd Cymru ac yn cynnwys ardal o tua 197,000ha (1970 km2) ym Mynyddoedd Cambrian. Yr amcanion yw arddangos datblygiad integredig a chynaliadwy mewn ardal wledig gan integreiddio’n gwaith gyda dyheadau ac amcanion pobl yr ardal. Mae’r Fenter yn ceisio gwella ansawdd y dirwedd a chysylltu ei phobl gyda’u hamgylchedd, gan ddylanwadu arnyn nhw i fabwysiadu ffyrdd o fyw i’w ddiogelu’n well.

Linc i : Map Mynyddoedd Cambrian a ffin 10km

Linc i : Adroddiad Cryno Astudiaeth Gwmpasu Mynyddoedd Cambrian Ebrill 08

Ffactorau sy’n Sbarduno Menter Mynyddoedd Cambrian

Mae nifer cynyddol o ffactorau sbarduno, o ran polisi a llywodraethu cenedlaethol yng Nghymru, sy’n dangos yn anorfod bod angen integreiddio polisïau a dulliau darparu yn well. Bydd Menter Mynyddoedd Cambrian yn batrwm da i nifer o bolisïau’r Cynulliad Cenedlaethol, felly bydd y canlynol yn ffactorau sbarduno allweddol:

· Strategaeth a Chynllun Gweithredu Amgylcheddol

· Ffermio i’r Dyfodol ac yn ddiweddar Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad: creu dyfodol cadarn

· Coetiroedd i Gymru (hefyd yn cael ei adolygu, dogfen ymgynghori ar gael)

· Trywydd Ynni Adnewyddadwy a’r Strategaeth Ynni sydd ar fin ymddangos

· Dringo’n Uwch

· Polisi Cynllunio Cymru a Chynllun Gofodol Cymru

· Dechrau Byw’n Wahanol (Strategaeth Datblygu Cynaliadwy)

· Creu’r Cysylltiadau