Ymgysylltu â’n Cymunedau
Un o brif amcanion y Fenter yw cynnal y cymunedau sy’n rhan o’r gadwyn o aneddiadau sy’n amgylchynu Mynyddoedd Cambrian. Rydym yn ceisio gweithio gyda’n cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r hyn y gallant ei wneud i helpu eu hunain i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy:
- drwy ddatblygu gwerth cynnyrch lleol;
- drwy ddatblygu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth ym Mynyddoedd Cambrian a datblygu gwerth twristiaeth; neu
- drwy gynorthwyo i ddatblygu cynlluniau gwella’r amgylchedd a chyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Bydd y Fenter, drwy’n Swyddog Cymunedau a Datblygu Cynaliadwy, yn gweithio gyda grwpiau cymunedol er mwyn cydgysylltu gweithgareddau yn yr aneddiadau, gan rannu arferion da, hybu cydweithio a sicrhau nad yw gwaith yn cael ei ddyblygu. Rydym yn ceisio ymgysylltu â chymunedau er mwyn hybu datblygiad cynlluniau gweithredu lleol; nid cynlluniau sy’n llawn dyheadau i’w cyflawni gan rywun arall ar ryw adeg amhenodol, ond camau ymarferol y gall cymunedau eu cymryd er mwyn gwella’u hamgylchedd lleol, meithrin menter a diogelu’r gwasanaethau y mae cymunedau’n dibynnu arnynt.
Beth bynnag y mae cymunedau’n ceisio’i wneud, o wella golwg sgwâr y pentref, i blannu coetir cymunedol, cynhyrchu ynni o nant neu afon leol neu sefydlu siop gymunedol, rydym yn ceisio’u cynorthwyo drwy gynnig cyngor ac anogaeth a’u helpu i gael gafael ar gyllid.
Mae’r Fenter yn ceisio sbarduno newid. Ni allwn wneud popeth ein hunain, ac nid ydym yn ceisio gwneud hynny. Ein rôl yw datblygu proffil Mynyddoedd Cambrian a sicrhau’r amgylchiadau y mae ar gymunedau eu hangen er mwyn ffynnu. Rydym yn ceisio cydgysylltu ymdrechion ac adnoddau partneriaid statudol y Fenter, a sicrhau rhagor o gyllid strategol i’r ardal, sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo menter ein cymunedau.
Cysylltwch a Swyddog Cymunedau a Datblygu Cynaliadwy ar 01970 639 410 neu enquiry@cambrianmountains.co.uk
Application Error
We are sorry, an error has occurred - an administrator has been informed


