Cymunedau
Ymgysylltu â’n Cymunedau
Un o brif amcanion y Fenter yw cynnal y cymunedau sy’n rhan o’r gadwyn o aneddiadau sy’n amgylchynu Mynyddoedd Cambrian. Rydym yn ceisio gweithio gyda’n cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r hyn y gallant ei wneud i helpu eu hunain i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy:
- drwy ddatblygu gwerth cynnyrch lleol;
- drwy ddatblygu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth ym Mynyddoedd Cambrian a datblygu gwerth twristiaeth; neu
- drwy gynorthwyo i ddatblygu cynlluniau gwella’r amgylchedd a chyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Bydd y Fenter, drwy’n Swyddog Cymunedau a Datblygu Cynaliadwy, yn gweithio gyda grwpiau cymunedol er mwyn cydgysylltu gweithgareddau yn yr aneddiadau, gan rannu arferion da, hybu cydweithio a sicrhau nad yw gwaith yn cael ei ddyblygu. Rydym yn ceisio ymgysylltu â chymunedau er mwyn hybu datblygiad cynlluniau gweithredu lleol; nid cynlluniau sy’n llawn dyheadau i’w cyflawni gan rywun arall ar ryw adeg amhenodol, ond camau ymarferol y gall cymunedau eu cymryd er mwyn gwella’u hamgylchedd lleol, meithrin menter a diogelu’r gwasanaethau y mae cymunedau’n dibynnu arnynt.
Beth bynnag y mae cymunedau’n ceisio’i wneud, o wella golwg sgwâr y pentref, i blannu coetir cymunedol, cynhyrchu ynni o nant neu afon leol neu sefydlu siop gymunedol, rydym yn ceisio’u cynorthwyo drwy gynnig cyngor ac anogaeth a’u helpu i gael gafael ar gyllid, gan gynnwys ein cynllun grantiau bychain ni ein hunain, Cariad Cambrian.
Mae’r Fenter yn ceisio sbarduno newid. Ni allwn wneud popeth ein hunain, ac nid ydym yn ceisio gwneud hynny. Ein rôl yw datblygu proffil Mynyddoedd Cambrian a sicrhau’r amgylchiadau y mae ar gymunedau eu hangen er mwyn ffynnu. Rydym yn ceisio cydgysylltu ymdrechion ac adnoddau partneriaid statudol y Fenter, a sicrhau rhagor o gyllid strategol i’r ardal, sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo menter ein cymunedau.
Cysylltwch a Rhys Hopkin - Swyddog Cymunedau a Datblygu Cynaliadwy ar 01970 639 410 neu rhys@cambrianmountains.co.uk


