Yr Amgylchedd Adeiledig
Elusen addysgol yw Sefydliad y Tywysog er yr Amgylchedd Adeiledig a’i nod yw gwella ansawdd bywydau pobl drwy addysgu ac ymarfer ffyrdd diamser ac ecolegol o blannu, dylunio ac adeiladu.
Credwn, drwy ddeall a chymhwyso egwyddorion sydd wedi eu profi gan amser, gan adeiladu unwaith eto mewn ffordd gynaliadwy, y byddwn yn gweld gwelliant yn iechyd y cyhoedd, ynghyd â chymdogaethau bywiocach a diogelach a ffordd o fyw sy’n fwy fforddiadwy i deuluoedd ac unigolion. Credwn hefyd y bydd cymunedau sy’n arddangos y nodweddion cynaliadwy hyn yn cynyddu yn eu gwerth dros gyfnod.
Gall y Sefydliad gynorthwyo cymunedau i symud ymlaen â’r gwaith o ddarparu tai a gweithleoedd rhesymol / di-garbon mewn estyniadau defnydd cymysg, cynaliadwy at aneddiadau sy’n bodoli’n barod. Y fethodoleg sy’n cael ei ffafrio gan y Sefydliad yw ymgynghoriad llawn â rhanddeiliaid a gweithdai dylunio cymunedol drwy broses cynllunio cydweithredol Ymholiadau drwy Ddyluniad.
Mae’r Sefydliad hefyd yn hyrwyddo trafodaethau gyda Phrifysgol Cymru, Y Drindod a Dewi Sant, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a chyrff eraill dan nawdd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru er mwyn sefydlu canolfan ryngwladol ar gyfer ymchwil ac addysgu ym maes rheoli tir drwy ddulliau cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar Fynyddoedd Cambria.
Gellir llwytho rhagor o fanylion am Sefydliad y Tywysog er yr Amgylchedd Adeiledig i lawr o:
http://www.princes-foundation.org/
Cyswllt lleol y Sefydliad yw:
Robert Croydon MSc FRICS MRTPI
Cynrychiolydd yng Nghymru
Sefydliad y Tywysog er yr Amgylchedd Adeiledig
Cofrestrfa Prifysgol Cymru
King Edward VII Avenue
CAERDYDD CF10 3NS


