Ein Hegwyddorion
Menter Marchnata Cig Oen Mynyddoedd Cambrian
- Rhaid bod yr holl ŵyn cymwys wedi’u geni a’u magu tan eu diddyfnu yn y rhan o Fenter Mynyddoedd Cambrian a ddiffiniwyd yn Ardal Llai Ffafriol (LFA) a rhaid iddynt gael eu lladd mewn lladd-dy yn ardal Mynyddoedd Cambrian sydd â chymeradwyaeth PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig).
- Caniateir pesgi ŵyn ar dir LFA sydd dan reolaeth lwyr aelodau’r Fenter ac sydd hefyd o fewn ardal ddaearyddol y Fenter.
- Rhaid i holl ymgeiswyr y Fenter gyfranogi yn llwyr a llwyddiannus mewn cyfnod prawf tymor-cyntaf cyn mynd ymlaen i aelodaeth lawn. Gall aelodaeth gael ei derfynu unrhyw bryd, fel canlyniad i ymddygiad anfoddhaol gan grŵp neu ddiffyg cydymffurfio.
- Wrth ddosbarthu dylid ystyried nifer y ‘milltiroedd bwyd’ sy’n cael eu cynhyrchu ac effaith amgylcheddol y dosbarthu a’r pecynnu ar y gadwyn cyflenwi bwyd lleol.
- Dim ond ŵyn o famogiaid Bridiau Mynydd Cymreig a fydd yn gymwys ar gyfer brandio Menter Mynyddoedd Cambrian. Ceir archwiliad blynyddol o’r ddiadell ac archwiliadau ar hap o rifau diadelloedd wedi’u pennu gan Iechyd Anifeiliaid.
- Bydd anifeiliaid yn cael eu magu yn unol â systemau ffermio llai dwys sy’n briodol i’r ardal ddaearyddol. Er enghraifft: -
- Pob oen i fod yn ganlyniad i genhedlu naturiol yn unig (ni chaniateir cenhedlu cydamseredig â chymorth sbyngau a PMSG). Eithriadau ar gyfer grwpiau bridio os ceir caniatâd ymlaen llaw.
- Dim ond bwydydd wedi’u cymeradwyo a ganiateir pan fydd ŵyn yn cael eu rhoi ar borfa ar ôl eu diddyfnu
- Mae modd pesgi ŵyn o dan do os ceir cytundeb
- Pob aelod i arwain ar bolisïau allweddol Prif Swyddog Milfeddygol Cymru
a. Cynllunio Iechyd Anifeiliaid gweithredol ac wedi’i fonitro, SCOPS (Rheoli Parasitiaid ar Ddefaid trwy Ddulliau Cynaliadwy)
b. Cyfranogiad yn yr ymgyrch i ddileu’r clafr sy’n cael ei arwain gan y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA)
c. Dilyngyru’r holl gŵn ar y fferm i safon yr Ymgyrch Dileu Clefyd Hydatid 2008.
7. Rhaid i holl aelodau’r Fenter fod yn aelodau cyfredol o FAWL.
8. Pob ffermwr i gydymffurfio â gofynion y Cynllun Taliad Sengl.
9. Rhaid i holl aelodau’r Fenter fod yn ddeiliaid Cytundeb neu fod wedi gwneud cais am fynediad i un o gynlluniau amaeth-amgylchedd Llywodraeth Cynulliad Cymru ac anelu at ennill achrediad uwch pan fydd ar gael, e.e. Tir Gofal neu Ardal Amgylcheddol Sensitif. Cadw at ddarpariaethau Mynediad Statudol er budd cymdeithas yn gyffredinol, i fod ar gael oni chawsant eu cynnwys eisoes yn y cytundeb Cynllun Amaeth Amgylcheddol (i’w cynnwys yn yr archwiliad annibynnol arfaethedig). Bydd yr aelodau hynny o'r Fenter sy’n ffermio/rheoli tiroedd a ddynodwyd naill ai’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, yn ceisio rheoli eu tir er mwyn cael amodau cadwraethol buddiol.
10. Dylai aelodau geisio meithrin cenhedlaeth newydd o ffermwyr ifainc wrth rannu eu sgiliau a gwybodaeth trwy gyfranogiad gweithredol mewn Grwpiau Trafod Cyswllt Ffermio a ddarperir gan Hybu Cig Cymru a darparwyr eraill.
11. Dylai ffermwyr anelu at ddatblygu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol a gwaredu gwastraff ar y cyd. Bydd hyn yn ddewis o fewn Cynllun Fferm Gyfan Cyswllt Ffermio, gan gynnwys ynni a gwastraff wrth archwilio adnoddau fferm.
12. Pob aelod i ddiwallu'r holl ofynion archwilio a bennir gan gwmni Mynyddoedd Cambrian Cyf er mwyn cydymffurfio ag egwyddorion menter farchnata Cig Oen Mynyddoedd Cambrian.


