Selsig Calon Cambrian
1 TACHWEDD 2010
Selsig NEWYDD Mynyddoedd Cambrian yn cael eu lansio mewn pryd ar gyfer Wythnos Selsig Prydain!!!
Mae staff yng nghigydd lleol Cwm Camarch wedi creu selsigen Gymreig newydd arbennig i nodi Wythnos Selsig Prydain (1-7 Tachwedd 2010). Mae’r siop yn Llanwrtyd wedi dyfeisio selsigen flasus newydd dan yr enw ‘Calon Cambrian’, yn rhan o Fenter Mynyddoedd Cambrian. Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru sy’n arwain Menter Mynyddoedd Cambrian, a bwriad y fenter yw helpu i ychwanegu gwerth i gynnyrch lleol gan ddefnyddio brand Mynyddoedd Cambrian, a hybu cadwyni cyflenwi lleol.
Roedd y staff yng nghigydd Cwm Camarch yn Llanwrtyd am greu selsigen â blas Cymreig a lleol amlwg iddi, ac ar ôl gwneud llawer o waith ymchwil, tarwyd ar y syniad o gydweithio â bragwr o’r ardal leol i greu selsigen newydd wedi’i gwneud o Borc a Chwrw Cymreig. Defnyddir porc lleol i wneud y selsig, ynghyd â Chwrw Calon Cambrian a gynhyrchir ym mragdy’r ‘Heart of Wales’ yn Llanwrtyd.
Y cigydd Andy Parr, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, sy’n gwneud y selsig newydd a gaiff eu galw’n selsig ‘Calon Cambrian’. Roedd yn falch iawn o gael datblygu selsig â blas newydd mewn pryd ar gyfer Wythnos Selsig Prydain. Meddai, "Mae’n wych gallu creu cynnyrch newydd sy’n hyrwyddo’r siop a’r rhanbarth, ac sy’n cefnogi busnes lleol arall ar yr un pryd! Rydym wedi cael ymateb ardderchog gan y sawl sydd wedi blasu’r selsigen, ac yn awr rydym yn gobeithio rhoi’r selsigen yn yr adran agored yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol eleni."
Dai a Delyth Thomas yw perchnogion cigydd Cwm Camarch, ac mae’r datblygiad newydd yn dilyn ymwneud Delyth â’r Fenter Mynyddoedd Cambrian a’i diddordeb mewn agweddau eraill ar y fenter honno. Yn rhan o’i hymwneud â’r fenter, mae ei thîm wedi bod yn cyflenwi cig lleol o ansawdd ar gyfer y bwydlenni yn Carlton Riverside House, y bwyty arobryn yn Llanwrtyd sydd wedi derbyn 3 rhosglwm gan yr AA. Yn ddiweddar, penodwyd y cogydd sy’n berchen ar y bwyty, Mary Ann Gilchrist, yn Llysgennad Menter Mynyddoedd Cambrian gan EUB Tywysog Cymru.
Mae Delyth hefyd wedi bod yn awyddus i ddatblygu cynnyrch a nwyddau cigydd Cwm Camarch a allai gael eu brandio fel cynnyrch Mynyddoedd Cambria. "Rydym yn gobeithio mai’r selsig newydd fydd y cyntaf o nifer o wahanol gynnyrch sydd â brand amlwg iawn," meddai Delyth. "Roeddem eisoes yn cyflenwi cig i Neuadd Arms, felly roedd defnyddio Cwrw Mynyddoedd Cambrian yn ymddangos yn gyfle rhy dda i’w golli. Roedd yn bartneriaeth naturiol!"
Mae bragdy’r ‘Heart of Wales’ wedi bod yn cynhyrchu Cwrw Calon Cambrian yn rhan o Fenter Mynyddoedd Cambrian ers mis Ebrill eleni, a bu EUB Tywysog Cymru ac EHB Duges Cernyw ar ymweliad â’r bragdy yn ystod yr haf. Nod Menter Mynyddoedd Cambrian yw helpu i hyrwyddo mentergarwch mewn cymunedau gwledig ac ychwanegu gwerth at gynnyrch a gwasanaethau yn y rhanbarth.


