Cynnyrch a Ryseitiau.

Cyffaith Mynyddoedd Cambrian

Jam Aeron Cymysg a Jeli Sbeislyd Cyrains Coch28 Ionawr 2011

Menter Mynyddoedd Cambrian yn lansio jamiau newydd fel danteithion melys ar gyfer Gŵyl Sain Folant

Jam Aeron Cymysg a Jeli Sbeislyd Cyrains Coch blasus yw’r cynnyrch diweddaraf yn yr ystod o gynhyrchion bwyd sy’n rhan o Fenter Mynyddoedd Cambrian, a ysbrydolwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Mae’r ddau wedi’u creu gan Suzanne Lloyd o Fferm Penlanlas ger Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei chynnyrch.

Mae Jam Aeron Cymysg Mynyddoedd Cambrian yn gyfuniad blasus o fefus, mafon a chyrains cochion lleol, a phob un ohonynt wedi’u tyfu ar fferm fynydd Gymreig draddodiadol Suzanne a Richard Lloyd.

Yn y cyfamser, "Jeli Sbeislyd Cyrains Coch Mynyddoedd Cambrian yw’r peth perffaith i gyd-fynd â chinio rhamantus o gig oen Cymreig ar Ŵyl Sain Folant, i’r rheini sydd wedi penderfynu aros gartref am y noson" meddai Deanna Leven, Rheolwr Busnes Menter Mynyddoedd Cambrian.

Mae Suzanne Lloyd wedi bod yn creu ac yn gwerthu ei brand ei hun o jamiau dan yr enw Cegin Suzanne a chafodd flwyddyn wych yn 2010, gan ennill gwobr Aur a dwy Wobr Arian yng ngwobrau ‘Cymru Y Gwir Flas’. Mae’r jamiau yn gwbl naturiol ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ychwanegion, cyffeithyddion na chynhwysion i dewychu’r cynnyrch.

"Rwyf wrth fy modd i fod yn gweithio gyda Menter Mynyddoedd Cambrian," meddai Suzanne, "Mae ein hegwyddorion o safbwynt ffermio a chynhyrchu, sef cefnogi cymunedau lleol, lleihau’r pellter y mae bwyd yn ei deithio, a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd yn cyd-fynd ag egwyddorion y fenter. Rydym yn teimlo’n gyffrous ynghylch yr hyn y gall y gwaith brandio a marchnata ychwanegol ei wneud inni o ran codi ymwybyddiaeth o’r rhanbarth a chynyddu nifer y cwsmeriaid ar gyfer ein cynnyrch."