Cynnyrch a Ryseitiau.

Siocled Moethus Mynyddoedd Cambrian

Choc Box Mini x2 MCM 0066

Lansio Siocledi Menter Mynyddoedd Cambrian yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2010 a gynhelir yr wythnos hon (29-30 Tachwedd), bydd cynnyrch diweddaraf Menter Mynyddoedd Cambrian yn cael ei lansio, sef blwch anrheg o siocledi blasus a gaiff eu gwneud â llaw gan un o entrepreneuriaid ifancaf y rhanbarth!

Caiff y siocledi moethus newydd eu gwneud â llaw yn ardal Mynyddoedd Cambria gan Sarah Bunton, merch ifanc o Bontarfynach ger Aberystwyth sy‟n creu siocledi. Byddant yn cael eu gwerthu am y tro cyntaf, ochr yn ochr â chasgliad Sarah ei hun o siocledi, yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, a chaiff y casgliad newydd ei ystyried yn anrheg berffaith ar gyfer y Nadolig!

Yn y casgliad y mae siocled „Myrddin y Dewin‟, sef wisgi o Gymru mewn siocled llaeth, a ffefryn traddodiadol, sef losin caramel a chnau cyll mewn siocled llaeth a siocled tywyll.

Caiff y siocledi eu lansio yn dilyn blwyddyn arbennig hyd yn hyn i Sarah, a enillodd Wobr Seren Aur ‘Great Taste’ 2010 ar lefel y DU am ei losin blas Amaretto, a Gwobr Arian ‘Cymru y Gwir Flas’ 2010 am ei siocled „Myrddin y Dewin‟.

Mae siocledi Mynyddoedd Cambrian Sarah hefyd ar gael ar gyfer y diwydiant lletygarwch, mewn blwch cyfanwerthu sy‟n cynnwys 123 darn o siocled. Mae‟r blwch arlwyo yn cynnwys detholiad o chwech o siocledi mwyaf poblogaidd Sarah („Myrddin y Dewin‟, losin blas Amaretto mewn siocled llaeth a siocled tywyll, siocled rỳm a rhesins, a losin caramel a chnau cyll mewn siocled llaeth a siocled tywyll). Maent yn ddelfrydol ar gyfer bwytai sy‟n gweini coffi a siocled fel pwdin, neu fel siocledi i‟w cynnig yn rhad ac am ddim ar ôl cinio. Mae blwch arlwyo Siocledi Moethus Mynyddoedd Cambrian ar gael yn uniongyrchol gan Siocledi Sarah Bunton neu gan Fwydydd Castell Howell.

"Mae bod yn rhan o Fenter Mynyddoedd Cambrian yn brofiad cyffrous iawn," meddai Sarah. "Mae‟n gyfle i ychwanegu gwerth drwy ddefnyddio‟r brand, ac mae‟n helpu i dynnu sylw at ansawdd ein cynnyrch a‟r ffaith ein bod yn lleol. Rydym am werthu i fwytai a gwestai sy‟n falch o weini cynnyrch lleol, ac a fydd yn eu tro yn gallu helpu i hyrwyddo‟r rhanbarth a‟i gynnyrch ymhellach trwy gynnwys cynnyrch Mynyddoedd Cambrian ar eu bwydlenni."