Cynnyrch a Ryseitiau.

Y Flwyddyn Amaethyddol

IonawrIonawr

Mae dechrau'r flwyddyn fel arfer yn cyd-ddigwydd â thywydd garw'r Gaeaf sy'n cael ei gythruddo ar yr ucheldir. Fel arfer mae'n amser bwydo'r defaid â gwair, betys siwgr a blociau mwynau. Mae gwaith cynnal a chadw cyffredinol yn uchel ar yr agenda yr adeg yma o'r flwyddyn gyda ffensio a phlygu gwrychoedd yn hawlio y rhan fwyaf o amser. Mae gwartheg yn dal i chwarae rhan bwysig ar nifer o ffermydd mynydd, defnyddiwyd hwy unwaith i bori llawer o'r ucheldir yn ystod misoedd yr haf. Maent yn un o'r ychydig o anifeiliaid sy'n medru pori a threulio gwellt y gweunydd. Gyda mewnbwn llafur uchel a derbyniadau gwael mae'r arfer bron â marw allan, er bod rhai cynlluniau amgylcheddol yn hybu'r defnydd. O fis Tachwedd - Mai cedwir y gwartheg dan dô a rhaid eu bwydo a rhoi gwely gwellt iddynt yn ddyddiol.

Chwefror

Caiff y defaid eu sganio yr adeg hon o'r flwyddyn er mwyn canfod faint o wyn sydd ganddynt. Didolir yr efeilliaid ac o bosib y triawdau oddi wrth y senglau a'u cludo lawr i borfeydd gwell. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae amrywiaeth o ffactorau wedi golygu lleihâd yn rhif y defaid sy'n pori'r ucheldir. Mae hyn wedi arwain at wella cyflwr corff y ddafad ac o ganlyniad ceir mwy o efeilliaid. Pe cedwid y rhain ar y mynydd byddai ansawdd y borfa yn annigonol i'r ddafad fagu dau oen. Caiff defaid y mwyafrif o ffermydd mynydd eu tynnu o'r ucheldir i wyna. Mae'r caeau yma yn cynnig gwell porfeydd yn ogystal â bod yn gymharol ddiogel rhag ysglyfaethwyr.

Mawrth

Ar y mwyafrif o ffermydd mynydd mae wyna'n cychwyn ddiwedd Mawrth. Mae natur eang y math yma o ffermio yn golygu nad oes angen llawer o gymorth ar yr oen. Mae'r oen yn nodweddiadol i fridiau mynydd cynhenid ar ei draed yn fuan ac yn sugno ei fam.

Ebrill April

Dyma fis prysuraf y flwyddyn i'r bugail. Rhaid dal y gweinion (wyn neu ddefaid) a'u dwyn i gysgod. Caiff llawer o'r efeilliaid eu mabwysiadu gan ddefaid a gollodd eu hwyn. Bydd wyn benyw y llynedd yn dychwelyd i'r mynydd ar ôl gaeafu ar diroedd llawr gwlad, mae hyn yn sicrhau eu bod yn cyrraedd i'w llawn dwf. Y rhain yw stoc fridio y dyfodol.

Mai

Fel mae'r borfa yn dechrau tyfu ar y mynydd mae'r wyn yn cael eu nodi gyda nod unigol y fferm a'u danfon gyda'u mamau i'r mynydd. Mae llawer o'r mynydd heb ffens ac wrth i'r wyn dreulio misoedd yr haf yno maent yn cadw i'w llecyn - dyma beth yw cadw at gynefin. Caiff caeau gwair eu cadw ar gyfer y gaeaf nesaf.

Mehefin May

Mae'r wyn a anwyd ar y mynydd yn cael eu crynhoi i lawr er mwyn eu nodi. Caiff rhai o'r defaid heb wyn eu cneifio.

Gorffennaf

Dyma fis prysur i'r bugail ac yn arbennig felly i'r cwn. Mae'r defaid i gyd yn cael eu crynhoi i gneifio. Mae gan bob fferm ddyddiad penodol ar gyfer crynhoi a chneifio gyda llawer o gymdogion yn cyfnewid diwrnodau â'i gilydd. Yn ystod misoedd yr haf tasg anodd yw crynhoi y defaid a'r wyn. Golygfa gyffredin yw gweld saith neu wyth o ddynion yn crynhoi'r mynydd gyda dau neu dri ci yr un.

Awst

Cynhaeaf yw blaenoriaeth y mis hwn. Os bydd y tywydd yn dda gwair fydd yn llenwi'r ysgubor, neu fel arall silwair sych / silwair fydd porthiant y gaeaf.

Medi September

Mae'n adeg crynhoi'r mynydd unwaith eto gyda'r wyn gwryw yn cael eu tynnu i mewn i borfeydd gwell. Caiff y rhain eu tewhau ar borfa sy'n rhoi melystra a blas i'r cig. Tynnir yr hen ddefaid a'u gwerthu i ffermydd llawr gwlad lle byddant yn parhau i fagu am flwyddyn neu ddwy.

Hydref

Gwerthir wyn sy'n barod yn y marchnadoedd lleol neu'n syth i'r lladd-dy. Mae arwerthiannau hyrddod yr adeg hyn yn fodd i brynu gwaed newydd er mwyn gwella safon y ddiadell. Ddiwedd Hydref bydd crynhoad olaf y flwyddyn. Danfonir yr wyn benyw a gadwyd er mwyn cael defaid magu i'r dyfodol ar 'dac' dros fisoedd y gaeaf i ffermydd llawr gwlad. Didolir y defaid i fynd gyda gwahanol hyrddod.

Tachwedd

Gydag wyn yn cael eu gwerthu'n rheolaidd a'r hyrddod wedi eu troi allan at y defaid mae'n amser gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar y fferm. Plennir gwyrchoedd newydd a phlygir rhai a blannwyd flynyddoedd ynghynt er mwyn creu cysgod i ddefaid a bywyd gwyllt.

Rhagfyr

Mae gwerthiant wyn yn mynd yn ei flaen gyda'r pris (gobeithio) yn codi wrth i'r Nadolig nesau. Cynhelir marchnadoedd a sioeau da tew sy'n gyfle da i gymdeithasu a chael saib rhag dyddiau byr y gaeaf.December