Hen Draddodiadau
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ddulliau ffermio modern mae hen draddodiadau yn ddisyflyd ar y mynyddoedd. Yn sgîl eu natur anhygyrch a gwrthwynebus nid oes peiriannau modern wedi bod ar gyfyl y mynyddoedd. Ar wahân i feiciau fferm pedair olwyn ychydig o newid a fu yn y ffordd mae'r defaid yn cael eu hela, eu bugeila a'u porthi.
Mae'r defaid yn cael eu hel o'r mynydd 4/5 gwaith y flwyddyn i'w sganio, cneifio, tynnu'r wyn ac yn olaf dipio'r defaid. Mae'r system Gyfnewid sy'n golygu bod cymdogion yn crynhoi yn eu tro ac yn helpu ei gilydd cyn bwysiced nawr ag erioed. Wrth i'r defaid gael eu cneifio yng Ngorffennaf mae gan pob fferm ddyddiadau crynhoi a chneifio penodol. Mae'r dyddiadau yma yn ddigyfnewid ers cenedlaethau a gyda'r galw am 6/7 bugail i grynhoi'r mynydd does dim dwywaith nad yw hwn yn gyfnod prysur iawn i'r bugeiliaid a'u cwn.
'Does dim gwell i'w gael na thîm da o gwn defaid sy'n gweithio ar y mynydd. Mae'r cwn defaid Cymreig yn gwn cryf, egniol sy'n medru trafod diadelloedd mawr yn ddi-drafferth ac maent yn adennill eu poblogrwydd. Mae'r Huntaway yn fath arall sy'n medru symud diadell fawr gyda'i gyfarthiad dwfn parhaus.
Deil y ceffyl i chwarae rhan allweddol ar lawer o ffermydd mynydd gan eu bod yn medru tramwyo tirwedd anffafriol megis ar draws ochr mynydd ar lwybr cul y defaid neu drwy gynteddau o dir corsiog sy'n gyffredin ar y copaon. Yn aml gall ceffyl profiadol arwain y bugail drwy dir gwlyb gan wybod yn reddfol lle mae'r darnau gwlypaf.
Ychydig o newid a fu i'r system ffermio ers cenedlaethau gyda'r dull 'Hafod a Hendre' yn enghraifft wych o hyn sy'n cyfeirio at yr arferiad o ddefaid yn pori'r mynydd yn ystod misoedd yr haf ac yna yn cael eu symud i borfeydd llawr gwlad dros fisoedd y gaeaf.


