Cynllun Gwarant Cig Oen Cymreig
Beth yw Cynllun Gwarant Cig Oen Cymreig?
|
Cynllun Gwarant Cig Oen. |
Caiff ffermydd sy'n rhan o Gynllun Gwarant Cig Oen Cymreig eu harchwilio er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â set o reolau fferm safonol sy'n gnweud yn siwr bod y stoc sy'n mynd i mewn i'r gadwyn fwyd yn cael eu magu yn unol â hwsmonaeth a lles yr anifail.
Mae'r gwarant yn cynnwys adnabyddiaeth a'r gallu i olrhain stoc,rheolaeth y fferm a rheolaeth amgylcheddol, defnydd o fwydydd anifeiliad, cadw anifeiliaid dan dô, cyfleusterau trafod anifeiliad, triniaethau meddyginiaethol a milfeddygol, mesurau glanweithdra a chludiant anifeiliaid.
Rydym i gyd yn y grwp yn aelodau o'r cynllun hwn.


