Amgylchedd
Cynlluniau Amgylcheddol
Ardal Amgylchedd Arbennig Mynyddoedd Cambrian / Tir Gofal/ Tir Cynnal
Dyma gynlluniau sy'n gwobrwyo ffermwyr am ofalu ar ôl nodweddion bywyd gwyllt, hanesyddol a diwylliannol ar eu tir.
Eu bwriad yw estyn cymorth i'r gymuned amaethyddol i warchod etifeddiaeth gyfoethog y Cymru wledig ac maent yn adlewyrchu blaenoriaethau'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ffermio cynaliadwy ynghyd â chyfleoedd gwell i'r cyhoedd fwynhau cefn gwlad.
Dyma'r amcanion:
- Gwarchod a chynyddu cynefinoedd o bwysigrwydd bywyd gwyllt.
- Gwarchod a harddu y tirwedd.
- Gwarchod a chynyddu nodweddion hanesyddol ac archaeolegol.
- Darparu cyfleoedd ar gyfer mynediad newydd i gefn gwlad.


