Amdanom Ni
Agrisgôp
Daeth grŵp Cig Oen Mynyddoedd Cambrian at ei gilydd o dan y cynllun Agrisgôp. Rhaglen arloesol
sy’n datblygu rheolwyr yw Agrisgôp ac mae ar gael yn rhad ac am ddim i ffermwyr a’u teuluoedd. Datblygwyd y rhaglen fel rhan o Gyswllt Ffermio, ac mae Agrisgôp yn cael eu chynnal gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithsasol Ewrop. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i ffermwyr i ddatblygu sgiliau, hyder, syniadau a chynllunio ar gyfer dyfodol eu busnes.
Menter a Busnes sy’n gyfrifol am y cynllun drwy Gymru gyfan. Bydd tua 8 person yn dod at ei gilydd i ystyried y posibiliadau ar gyfer y dyfodol nid yn unig i’w hunain, ond i’w teuluoedd hefyd. Mae’n bosib eu bod yn awyddus i drafod syniad am fusnes, problem neu gyfle sydd wedi codi ac am ei ddatblygu neu’i oresgyn.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.menterabusnes.co.uk
O’r chwith i’r dde:
Tom Lewis, David Llewelyn Evans, James Raw, Owain Pugh, Dylan Morgan,
William Davies, Rhys Jones, Alun Jones, Huw Davies.


