Cynnyrch a Ryseitiau.

Cig Oen Mynyddoedd Cambrian

Ysbrydolwyd Cig Oen Mynyddoedd Cambrian gan EUB Tywysog Cymru, sydd drwy ei Fenter Marchnata Amaeth yn ceisio cefnogi a hybu ffermydd teuluol yr ucheldir. Rhaid wrth ddefaid i gynnal yr ucheldir ac mae hyn yn ei dro yn darparu cig oen o'r safon uchaf.

Mae Cig Oen Mynyddoedd Cambrian yn cynrychioli grwp o ffermydd yng Nghanolbarth Cymru sy'n cyflenwi Cig Oen Cymreig i archfarchnadoedd Co-op led-led Cymru.

Daw ein cig oen o fridiau cynhenid Mynyddoedd y Cambrian yng Nghanolbarth Cymru. Cedwir y diadelloedd cynhenid ar ffermydd sy'n rhan o'r cynllun gwarant fferm gan ddefnyddio hen ddulliau traddodiadol megis Hafod a Hendre o amaethu. Rydym yn ffermio gan ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth. Un o'r traddodiadau hynny yw'r system Gyfnewid sy'n golygu bod cymdogion yn cynorthwyo'i gilydd ar adegau prysur megis cneifio a chrynhoi yn yr Hydref. Gyda chymaint o sôn yn ddiweddar am filltiroedd bwyd rydym yn ffodus o fedru geni, magu a phrosesu ein hwyn yn lleol.

Diadelloedd Cynhenid

Mae diadelloedd cynhenid yn geni/magu eu hwyn ar y mynydd agored gyda'r defaid yn aros oddi mewn i lecyn arbennig drwy'r flwyddyn. Mae hyn yn hanfodol ar fynydd agored gan nad oes ffens ar y terfynau i gadw gwahnaol ddiadelloedd ar wahân.

Hafod a Hendre

Cyfeiria'r dull Hafod a Hendre at ddefaid yn pori'r mynydd yn ystod misoedd yr haf ac yna'n dychwelyd i diroedd is yn ystod misoedd y gaeaf.

Ysbrydolwyd Cig Oen Mynyddoedd Cambrian gan EUB Tywysog Cymru, sydd drwy ei Fenter Marchnata Amaeth yn ceisio cefnogi a hybu ffermydd teuluol yr ucheldir. Rhaid wrth ddefaid i gynnal yr ucheldir ac mae hyn yn ei dro yn darparu cig oen o'r safon uchaf.