Cynnyrch a Ryseitiau.

Cwrw Calon Cambrian

27 Hydref 2010

Yn dilyn lansiad Cwrw Calon Cambrian yn yr haf, mae'n bleser cyhoeddi bod y casgenni a'r boteli ar gael drwy dosbarthwyr lleol - Bwydydd Castell Howell a Tanners Wines.

Boteli Cwrw Calon Cambrian

Bwydydd Castell Howell Foods Ltd http://chfoods.co.uk

Code 97161 (12 x 500ml bottles)

Cyswllt: Sales 01269 846 080

Casgen Cwrw Calon

Tanners Wines

Code XD529 (9 gallon cask)

Cyswllt: Simon Freeman ar 07976 319 703 neu swyddfa 01938 552 542.

Cwrw Calon Cambrian

19 Mehefin 2010

Bydd cwrw newydd a gaiff ei fragu ym Mynyddoedd Cambrian yn cael ei lansio yn ardal Aberystwyth y mis hwn (19 Mehefin 2010). Caiff ‘Cwrw Calon Cambrian’ ei farchnata gan ddefnyddio’r brand Mynyddoedd Cambrian, sy’n rhan o fenter wledig yng Nghymru a ysbrydolwyd gan EUB Tywysog Cymru i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol.

Mae ‘Cwrw Calon Cambrian’ yn gwrw brown braf a gaiff ei fragu gan fragdy’r ‘Heart of Wales’ yn Llanwrtyd. Bydd Carly Butler a Deanna Leven o Fenter Mynyddoedd Cambrian, sydd wedi’i lleoli yn Aberystwyth, yn darparu samplau o’r cynnyrch yn nigwyddiad MidMad 2010 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar ddiwrnod y lansiad, lle bydd y cwrw hefyd yn cael ei werthu yn y Bar Cwrw Go Iawn.

Meddai Lindsay Ketteringham, bragwr ym mragdy’r ‘Heart of Wales’, "Ymunais â’r fenter oherwydd fy mod yn teimlo’i bod yn bwysig i ardaloedd gwledig allu cyfleu delwedd brand cryf y mae prynwyr yn ei gysylltu ag ansawdd. Yn aml bydd yn well gan bobl sy’n byw yn y rhanbarth gefnogi menter leol, a bydd ymwelwyr fel arfer yn awyddus i flasu cynnyrch lleol. Felly, mae brand cryf sy’n hawdd ei adnabod ac sy’n cynrychioli ansawdd a chynaliadwyedd yn gaffaeliad pwysig i unrhyw gynhyrchydd lleol."

"O brynu cynnyrch dan frand Mynyddoedd Cambrian, gall prynwyr fod yn siŵr eu bod yn cael bwyd a diod lleol o safon, a’u bod hefyd yn gwella cynaliadwyedd cynhyrchwyr yn rhanbarth Mynyddoedd Cambrian," meddai.

Bydd ‘Cwrw Calon Cambrian’ ar gael yn rhai o brif sefydliadau’r ardal, yn rhan o’r lansiad, gan gynnwys tafarn y ‘Ship And Castle’, sydd wedi ennill gwobr gan CAMRA. Bydd y cwrw hefyd yn cael ei werthu yn y ‘Castle Hotel’, ‘Rummers Wine Bar’, ‘The Farmers Arms’ a Chlwb y Ceidwadwyr. Bydd poteli o ‘Gwrw Calon Cambrian’ ar gael yng Ngwesty Cymru a Llys y Brenin (‘King’s Hall Brasserie’).

Mae Llinos James o’r ‘Castle Hotel’ o’r farn bod prynwyr, wrth iddynt ddod yn fwy ymwybodol o darddiad y bwyd y maent yn ei fwyta, yn mynnu cael cynnyrch mwy lleol. "Mae gallu cynnig cwrw a gynhyrchwyd yn ardal Mynyddoedd Cambrian yn golygu ein bod yn cyfrannu at gynaliadwyedd ein cymuned leol yn ogystal â diwallu anghenion ein cwsmeriaid," meddai.

MCM Beer Launch FINALMCM beer matfront