Newyddion
EUB Tywysog Cymru yn cynnal derbynwest yn Clarence House
9 Rhag 2011
Yr wythnos hon (dydd Mercher 7 Rhagfyr 2011) cynhaliodd EUB Tywysog Cymru dderbynwest amser cinio yn Clarence House i gyflwyno cynnyrch arobryn ‘Cig Oen Mynyddoedd Cambrian’ i berchnogion rhai o fwytai gorau Llundain, eu cyflenwyr a cholofnwyr bwyd amlwg.
Gwerthu Cig Oen Mynyddoedd Cambrian ar Sianel Deledu Siopa
1 Tach 2011
Am y tro cyntaf erioed Ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2011, bydd Cig Oen Mynyddoedd Cambrian yn cael ei werthu ar un o brif sianelau teledu siopa Prydain, QVC.
Dirprwy Weinidog Alun Davies AC yn ymweld â Menter Mynyddoedd Cambrian
14 Medi 2011
Wnaeth Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru, Alun Davies AC, cyfarfod â rhai o'r ffermwyr a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda Menter Mynyddoedd Cambrian, sef prosiect i helpu i lywio dyfodol cynaliadwy a ffyniannus i gymunedau ac amgylchedd Mynyddoedd Cambrian.
Llond lle o gynnyrch lleol yn Rasys Tregaron
12 Awst 2011
Clwb Trotian Tregaron – Gŵyl Rasys Harnais, ddydd Iau 25 i ddydd Sadwrn 27 Awst 2011 Yn cynnwys Pentref Cynnyrch Mynyddoedd Cambrian, ddydd Gwener 26 a dydd Sadwrn 27 Awst
Cig Oen Mynyddoedd Cambrian yn derbyn clod arbennig yn y Rasys
5 Gorff 2011
"Roedd blas Cig Oen Mynyddoedd Cambrian yn rhagori ar unrhyw gig oen Cymreig yr wyf wedi’i ddefnyddio yn Ffos Las yn y gorffennol! Llwyddodd blas y stoc cig oen o’r goes i gynhyrchu hylif melys annisgwyl a helpodd i greu saws blasus iawn. Roedd y cig, gyda’i liw golau braf, yn edrych yn hyfryd ar ôl ei goginio ac roedd yn frau iawn."
Llysgenhadon Twristiaeth Newydd ar gyfer Menter Mynyddoedd Cambrian
1 Gorff 2011
Yn ystod wythnos 27 Mehefin 2011 wnaeth EUB Tywysog Cymru penodi grŵp o Lysgenhadon Twristiaeth newydd ar gyfer Mynyddoedd Cambrian i gydnabod eu cyfraniad i fywyd gwledig ac economi ac amgylchedd yr ardal.
Cig Oen Mynyddoedd Cambrian ar y prif fwydlenni yn Wimbledon a Rasys Ffos Las
21 Mehef 2011
Mae Cig Oen Mynyddoedd Cambrian, y tymor newydd, ar y fwydlen unwaith yn rhagor, gydag ymwelwyr yn Wimbledon a Diwrnod Rasys Elusennau’r Tywysog yng Nghymru yn Ffos Las (23 Mehefin 2011) yn cael y cyfle cyntaf i flasu’r cig bendigedig.
Swyddog Datblygu Prosiect i'w apwyntio
25 Mai 2011
We are in the process of confirming the length of the contract with our funders, but are hoping for a contract of two years to offer to the succesful applicant.
EUB Tywysog Cymru yn cyflwyno Grantiau Cymunedol Cyntaf MMC
1 Maw 2011
Roedd EUB Tywysog Cymru yn Llanymddyfri ar Ddydd Gŵyl Dewi i gyfarfod â’r grwpiau cymunedol cyntaf i elwa o Ymddiriedolaeth Mynyddoedd Cambrian.
Lansio jamiau newydd fel danteithion melys ar gyfer Gŵyl Sain Folant
28 Ion 2011
Jam Aeron Cymysg a Jeli Sbeislyd Cyrains Coch blasus yw ein cynnyrch diweddaraf. Mae’r ddau wedi’u creu gan Suzanne Lloyd o Fferm Penlanlas ger Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei chynnyrch.


