Ein Strwythr
Llywydd Menter Mynyddoedd Cambrian – EUB Tywysog Cymru
Bydd y swyddogaeth hon yn golygu EUB Tywysog Cymru yn rhoi proffil uchel er mwyn sicrhau bod y brand Mynyddoedd Cambrian yn amlwg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan gynnull buddsoddwyr allweddol yn y sector preifat a chwsmeriaid sy’n angenrheidiol ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir. Bydd y Llywydd yn cefnogi mentrau drwy ymweld â ffermydd a phrosiectau yn yr ardal, a trwyddedu defnyddio llun dyfrlliw EUB o Fynyddoedd y Cambrian fel y brand Menter Mynyddoedd Cambrian, a chadeirio un cyfarfod y flwyddyn o grŵp llywio’r Fenter.
Caiff y Grŵp Llywio Menter Mynyddoedd Cambrian ei gadeirio gan Peter Davies, Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy Cymru.Mae’r grŵp llywio hwn yn goruchwylio meysydd allweddol y fenter ac mae’n cynnwys cadeiryddion y gweithgorau, prif weithredwyr y prif bartneriaid sector cyhoeddus, Llywodraeth Cynulliad Cymru a chynrychiolwyr o sefydliadau preifat a chymunedol. Pan yn briodol bydd aelodau’r grŵp llywio hefyd yn ymddiriedolwyr elusen Mynyddoedd Cambrian a sefydlir drwy’r fenter.
Cwmni Mynyddoedd Cambrian Cyfyngedig
Sefydlwyd cwmni cyfyngedig drwy warant gyda Chyfarwyddwyr yn dod o grŵp llywio Menter Mynyddoedd Cambrian. Yr amcanion yw ‘hyrwyddo cynaliadwyedd cymunedau gwledig ym Mynyddoedd y Cambrian.’
Ei fwriad yw sicrhau statws elusennol a gweithredu fel is-gwmni masnachu i farchnata dan frand Mynyddoedd Cambrian. Bydd elusen Mynyddoedd Cambrian wrth galon menter datblygu gwledig integredig Mynyddoedd Cambrian. Bydd yn cael arian gan freindal drwy ddefnyddio brand Mynyddoedd Cambrian, grantiau o’r sector cyhoeddus ac ymddiriedolaethau, gwerthu lithograffau o lun dyfrlliw EUB a rhoddion o’r sector preifat.
Caiff yr arian a geir ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn mentrau sy’n cyflawni amcan cynnal economi, cymunedau ac amgylchedd Mynyddoedd Cambrian, gan ddarparu model ar gyfer datblygu gwledig integredig yn ucheldir Cymru.
Cadeirydd y Grŵp Marchnata Cynnyrch yw Gareth Rowlands, Rachel's Organic.
Mae'r grŵp wedi bod yn gweithio gyda Grŵp Cig Oen Mynyddoedd Cambrian i sicrhau marchnad ar gyfer eu cynnyrch, a'r amcan yw i weithio gyda ffermwyr a grwpiau cynhyrchwyr eraill yn yr ardal.
Cymeradwywyd cais am gyllid gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2007-2013 dan y Cynllun Effeithlonrwydd Cadwyn Cyflenwi yng nghanol mis Mawrth 2009. Bydd hyn yn sicrhau apwyntiad Rheolwr/wraig Busnes a Chydlynydd Prosiect i arwain y cynllun busnes.
Mae'r Cynllun Busnes 5 mlynedd ar gyfer datblygu’r prosiect i sefydlu’r seilwaith i ddatblygu ystod o gynnyrch yn y sectorau bwyd-amaeth a choedwigaeth yn ardal dalgylch Mynyddoedd y Cambrian. Bydd y cynnyrch yn ystod o gynnyrch fferm sydd â brand Mynyddoedd Cambrian sydd â chymeradwyaeth EUB Tywysog Cymru.
Arweinir y Grŵp Ecosystemau gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru dan cadeiryddiaeth John Lloyd Jones OBE.
Penodir Swyddog Prosiect Gwasanaethau Ecosystemau i arwain y gwaith ar ddylanwadu a threialu mesurau rheoli tir a allai helpu i ddylanwadu ar y mesurau amaeth-amgylchedd â mesur ôl Troed Carbon cyfredol y busnesau fferm.
Arweinir y Grŵp Twristiaeth gan Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru o dan ofal Paul Loveluck y Cadeirydd.
Mae Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru wedi bod yn arwain y gwaith o ddatblygu’r thema twristiaeth gan weithredu fel y corff cydlynu rhanbarthol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Un o’i phrif nodau yw sicrhau bod potensial elfen twristiaeth y fenter hon yn cael ei datblygu mewn ffordd briodol a chynaliadwy.
Mae grŵpiau Yr Amgylchedd Adeiledig, Treftadaeth a Chymunedau yn cael eu arwain gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Tywysog.
Mae Ymddiriedolaeth Adfywio’r Tywysog wedi arwain Prosiect Cymeriadaeth Adeiladau Hanesyddol mewn partneriaeth â Cadw.
Nod Menter Mynyddoedd Cambrian yw gwella amgylchedd hanesyddol yr ardal wledig hon o Gymru. Gall wneud hyn drwy gefnogi cymunedau ffermio i greu cyfleoedd ar gyfer parhau i ddefnyddio adeiladau brodorol. Mewn rhai achosion, gobeithir y bydd yn galluogi parhau i ddefnyddio adeiladau ffermydd at y dibenion y cawsant eu hadeiladu ar eu cyfer. Mewn achosion eraill bydd yn galluogi arallgyfeirio er mwyn dod â defnydd newydd ar gyfer adeiladau ffermio a fyddai fel arall yn segur ac mewn perygl o gael eu colli.
Mae adeiladau brodorol yn ased pwysig ar gyfer amlygrwydd gwledig Mynyddoedd y Cambrian i’r un graddau â’r cynnyrch lleol. Er mwyn ystyried y ffordd orau o warchod y cymeriad hwn, rhaid inni gofnodi a deall yr adnodd cyn wedyn gwerthuso’r ffordd orau o ailddefnyddio yn addasol.


