Amdanon Ni.

Ein Hamcanion

Mae Menter Mynyddoedd Cambrian am helpu defnyddwyr i gael cysylltiad â bywyd a phobl Mynyddoedd Cambrian trwy ymweld â’r ardal a phrofi ei bwydydd naturiol a blasus sydd o’r ansawdd gorau. Mae gan ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a busnesau twristiaeth sydd wedi cytuno i lynu wrth egwyddorion brand Mynyddoedd Cambrian Mountains gyfle i ddefnyddio delwedd adnabod y brand ar eu cynhyrchion a gwasanaethau. Bwriad y brand yw hyrwyddo’r rhanbarth a dynodi gwerthoedd y bydd defnyddwyr yn eu hadnabod a’u mwynhau ac ymddiried ynddynt. Bydd yr enillion o werthiannau cynnyrch â brand Mynyddoedd Cambrian Mountains yn helpu i roi elw i’r ffermwyr a chynhyrchwyr ac yn gymorth hefyd i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i’w teuluoedd.

Egwyddorion arweiniol

• Hybu cymunedau gwledig egnïol

• Ychwanegu gwerth at ffermydd teuluol traddodiadol

• Cynnal ecosystemau a chynefinoedd gwerthfawr

• Cynnig cynhyrchion a gwasanaethau fferm o’r ansawdd gorau

• Gofalu am yr amgylcheddau naturiol ac adeiledig

• Cysylltu defnyddwyr â chefn gwlad

• Cefnogi twristiaeth wledig