Ein Hegwyddorion Brand
Brand Menter Mynyddoedd Cambrian
Mae Mynyddoedd Cambrian yn ardal ucheldir nodedig sy’n ffurfio calon Cymru. Mae’r dirwedd yn ddigyffwrdd ac mae’n cynnal cynefinoedd, rhywogaethau a dulliau amaethu gwerthfawr sydd â’u gwreiddiau nôl yn yr Oesoedd Canol.
Mae brand Mynyddoedd Cambrian yn ymgorffori nodweddion yr ardal a gynrychiolir ganddo. Mae’n frand sy’n ymroddi i gynnal amgylchedd byw ac unigryw trwy roi sicrwydd i gwsmeriaid ynglŷn ag ansawdd, blas a chroeso. Mae’r holl gynhyrchion a gwasanaethau sy’n defnyddio’r brand yn seiliedig ar gryfderau a rhinweddau Mynyddoedd Cambrian ac maent wedi ymrwymo i gefnogi nodau Menter Mynyddoedd Cambrian.
Nodau Menter Mynyddoedd Cambrian yw:
· cefnogi datblygu cymunedau gwledig cynaliadwy oddi mewn i Fynyddoedd Cambrian
· cynnal amgylchedd Mynyddoedd Cambrian yn unol â diffiniad yr asesiad o gymeriad y dirwedd yng Nghymru
· cydweithio â chymunedau a chynhyrchwyr, darparwyr twristiaeth yn y cyffiniau dylanwadol er budd yr ardal graidd
· sicrhau cynaliadwyedd ffermydd teuluol Cymru ar gyfer y dyfodol
· cyflawni’r safonau gorau o ran rheoli tir a gofalu am anifeiliaid
· bod yn warcheidwad i amgylchedd naturiol a threftadaeth yr ardal
· galluogi darpariaeth o wasanaethau ecosystem er budd y gymdeithas ehangach trwy gadw carbon yn y pridd a rheoli llifogydd
· darparu’r croeso Cymreig cynhesaf a gwasanaeth o’r ansawdd gorau i ymwelwyr â’r ardal
Defnyddio Brand Menter Mynyddoedd Cambrian
Defnyddir y brand o dan drwydded gan Gwmni Mynyddoedd Cambrian i gynhyrchwyr neu ddarparwyr gwasanaeth sydd yn:
- ymrwymo i werthoedd y brand
- cytuno i set benodol o egwyddorion ansawdd ar gyfer eu cynnyrch/gwasanaeth
- cyfrannu at gyflawni amcanion ehangach y fenter
- defnyddio’r brand yn unol â chanllawiau’r brand



