Amdanon Ni.

Llun Dyfrlliw EUB Tywysog Cymru

Mae Tywysog Cymru wedi rhoddi llun dyfrlliw arbennig i’w ddefnyddio i ddatblygu brand nodedig Mynyddoedd Cambrian Mountains.

Watercolour

Lithograff Cwm Berwyn

Cafodd y lithograff argraffiad-cyfyngedig hwn ei atgynhyrchu o lun dyfrlliw a baentiwyd gan EUB Tywysog Cymru.

Dechreuodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ymweld â Mynyddoedd Cambrian pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru yn Aberystwyth yn 1969. Dewisodd yr olygfa hon ar gyfer paentio llun dyfrlliw o Gwm Berwyn ger Tregaron, sydd i’w weld o gopa Rhiwdywyll gyda Phantshiri ar y chwith a Chraig y Fintan ar y dde.

Cafodd y lithograff ei gyfyngu i argraffiad o gant. Mae gan bob lithograff ei rif unigryw ynghyd â llofnod Tywysog Cymru a thystysgrif dilysrwydd.

Os hoffech brynu’r llun, gallwch wneud hynny ar-lein o’r siop yn Highgrove.