Menter Marchnata Amaeth EUB Tywysog Cymru
Dyma fenter sy'n ceisio rhwystro rhagor o ffermwyr rhag gadael mynyddoedd Prydain.
Mae ffermwyr mynydd yn angenrheidiol i gynnal amgylchedd yr ucheldir drwy'r modd rydym yn rheoli amsugnad dwr, lliniaru llifogydd, ymneilltuad carbon, perygl tân a chadw llwybrau a chefn gwlad o fewn cyrraedd. Mae angen anifeiliaid i gynnal yr ucheldir ac mae hyn yn ei dro yn darparu'r wlad â bwyd traddodiadol o safon uchel sy'n cyrraedd y farchnad fwyd ochr yn ochr â stoc a fewnforiwyd.
Mae Menter Marchnata Amaeth EUB Tywysog Cymru yn ceisio cefnogi ffermwyr i gydweithio i farchnata eu cynnyrch rhagorol ac i ddarparu'r prynwr â chynnyrch gorau posib y ffermydd mynydd. Rhaid i ffermydd cyfrannog gydymffurfio â set o egwyddorion gan gynnwys:
- Rhaid i'r stoc gael eu geni, magu a'u tewhau o fewn yr ardal y cawsant eu magu gan ddefnyddio dulliau ffermio traddodiadol eang.
- Mae pob aelod o'r fenter yn rhan o gynllun gwarant fferm genedlaethol gydnabyddedig a chynllun stiwardiaeth amgylcheddol gydnabyddedig.


