EUB Tywysog Cymru yn cynnal derbynwest yn Clarence House.

EUB Tywysog Cymru yn cynnal derbynwest yn Clarence House

9 Rhag 2011

Yr wythnos hon (dydd Mercher 7 Rhagfyr 2011) cynhaliodd EUB Tywysog Cymru dderbynwest amser cinio yn Clarence House i gyflwyno cynnyrch arobryn ‘Cig Oen Mynyddoedd Cambrian’ i berchnogion rhai o fwytai gorau Llundain, eu cyflenwyr a cholofnwyr bwyd amlwg. Roedd y digwyddiad yn nodi’r Fenter Marchnata Amaeth ddiweddaraf, a gaiff ei harwain gan y Tywysog, i helpu i hyrwyddo cynnyrch rhanbarthol o ffermydd traddodiadol.

Roedd y cigyddion enwog a fu yn y digwyddiad yn cynnwys y Cymro Bryn Williams a chynrychiolwyr o fwytai Mosimann a Le Gavroche sy’n eiddo i’r brodyr Roux. Roedd y sefydliadau enwog eraill sydd â seren Michelin yn cynnwys Searcys Commonwealth Club a The Gherkin, Ransome’s Dock, Cafe Spice Namaste, L’Anima, Zafferano, The Cinnamon Club, The Garden Bar & Grill, Bocca di Lupo a Maes Criced Lord’s.

Roedd cynrychiolwyr y fasnach gig a fynychodd y dderbynwest yn cynnwys uwch-staff o Dunbia, Compass/Facilities Management Catering Ltd, Aubrey Allen, Danish Crown, Aramark, Prime Meats, Initial Catering Services, Brakes Bros Ltd a Chefs Connections Ltd. Roedd yr adwerthwyr a oedd yn bresennol yn cynnwys cyflenwyr cig o ansawdd o Harrods a Partridges o ardal Chelsea, ynghyd â Monoprix o Ffrainc a Gesco – Amadori o’r Eidal.