Gwerthu Cig Oen Mynyddoedd Cambrian ar Sianel Deledu Siopa.

Gwerthu Cig Oen Mynyddoedd Cambrian ar Sianel Deledu Siopa

1 Tach 2011

Am y tro cyntaf erioed Ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2011, bydd Cig Oen Mynyddoedd Cambrian yn cael ei werthu ar un o brif sianelau teledu siopa Prydain, QVC.

Bydd pecynnau yn cynnwys toriadau gwahanol o gig oen ffres yn cael eu gwerthu ar yr awyr yn ogystal ag ar wefan y sianel.

Caiff y cig oen ei gynhyrchu gan grŵp o ffermwyr sy’n rhan o fenter wledig a ysbrydolwyd gan EUB Tywysog Cymru, ac mae’n cwrdd â safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid o’r radd flaenaf er mwyn cynhyrchu cig o’r safon uchaf.

Bydd y cig oen yn cael ei werthu ar raglen goginio awr o hyd a gaiff ei darlledu ar QVC am 1 o’r gloch brynhawn Mawrth 8 Tachwedd gyda’r cogydd Rhodri Edwards o dafarn Y Ffarmers, Llanfihangel y Creuddyn, a Gareth Rowlands (ffarmwr a chyd-sylfaenydd Rachel’s Dairy) sy’n Gyfarwyddwr Cwmni Mynyddoedd Cambrian.

James and Owain